2. Erglyw ar lef fy ngwaedd, fy Mrenin, a'm Duw: canys arnat y gweddïaf.
3. Yn fore, Arglwydd, y clywi fy llef; yn fore y cyfeiriaf fy ngweddi atat, ac yr edrychaf i fyny.
4. Oherwydd nid wyt ti Dduw yn ewyllysio anwiredd: a drwg ni thrig gyda thi.
5. Ynfydion ni safant yn dy olwg: caseaist holl weithredwyr anwiredd.
6. Difethi y rhai a ddywedant gelwydd: yr Arglwydd a ffieiddia y gŵr gwaedlyd a'r twyllodrus.
7. A minnau a ddeuaf i'th dŷ di yn amlder dy drugaredd; ac a addolaf tua'th deml sanctaidd yn dy ofn di.
8. Arglwydd, arwain fi yn dy gyfiawnder, o achos fy ngelynion; ac uniona dy ffordd o'm blaen.
9. Canys nid oes uniondeb yn eu genau; eu ceudod sydd anwireddau: bedd agored yw eu ceg; gwenieithiant â'u tafod.
10. Distrywia hwynt, O Dduw; syrthiant oddi wrth eu cynghorion: gyr hwynt ymaith yn amlder eu camweddau: canys gwrthryfelasant i'th erbyn.
11. Ond llawenhaed y rhai oll a ymddiriedant ynot ti: llafarganant yn dragywydd, am i ti orchuddio drostynt: a'r rhai a garant dy enw, gorfoleddant ynot.
12. Canys ti, Arglwydd, a fendithi y cyfiawn: â charedigrwydd megis â tharian y coroni di ef.