1. Gwrando fy ngeiriau, Arglwydd; deall fy myfyrdod.
2. Erglyw ar lef fy ngwaedd, fy Mrenin, a'm Duw: canys arnat y gweddïaf.
3. Yn fore, Arglwydd, y clywi fy llef; yn fore y cyfeiriaf fy ngweddi atat, ac yr edrychaf i fyny.
4. Oherwydd nid wyt ti Dduw yn ewyllysio anwiredd: a drwg ni thrig gyda thi.