6. Rhai a ymddiriedant yn eu golud, ac a ymffrostiant yn lluosowgrwydd eu cyfoeth.
7. Gan waredu ni wared neb ei frawd, ac ni all efe roddi iawn drosto i Dduw:
8. (Canys gwerthfawr yw pryniad eu henaid, a hynny a baid byth:)
9. Fel y byddo efe byw byth, ac na welo lygredigaeth.
10. Canys efe a wêl fod y doethion yn meirw, yr un ffunud y derfydd am ffôl ac ynfyd, gadawant eu golud i eraill.
11. Eu meddwl yw, y pery eu tai yn dragywydd, a'u trigfeydd hyd genhedlaeth a chenhedlaeth: enwant eu tiroedd ar eu henwau eu hunain.
12. Er hynny dyn mewn anrhydedd, nid erys: tebyg yw i anifeiliaid a ddifethir.
13. Eu ffordd yma yw eu hynfydrwydd: eto eu hiliogaeth ydynt fodlon i'w hymadrodd. Sela.
14. Fel defaid y gosodir hwynt yn uffern; angau a ymborth arnynt; a'r rhai cyfiawn a lywodraetha arnynt y bore; a'u tegwch a dderfydd yn y bedd, o'u cartref.