Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 49:3-11 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

3. Fy ngenau a draetha ddoethineb; a myfyrdod fy nghalon fydd am ddeall.

4. Gostyngaf fy nghlust at ddihareb; fy nameg a ddatguddiaf gyda'r delyn.

5. Paham yr ofnaf yn amser adfyd, pan y'm hamgylchyno anwiredd fy sodlau?

6. Rhai a ymddiriedant yn eu golud, ac a ymffrostiant yn lluosowgrwydd eu cyfoeth.

7. Gan waredu ni wared neb ei frawd, ac ni all efe roddi iawn drosto i Dduw:

8. (Canys gwerthfawr yw pryniad eu henaid, a hynny a baid byth:)

9. Fel y byddo efe byw byth, ac na welo lygredigaeth.

10. Canys efe a wêl fod y doethion yn meirw, yr un ffunud y derfydd am ffôl ac ynfyd, gadawant eu golud i eraill.

11. Eu meddwl yw, y pery eu tai yn dragywydd, a'u trigfeydd hyd genhedlaeth a chenhedlaeth: enwant eu tiroedd ar eu henwau eu hunain.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 49