2. Yn gystal gwreng a bonheddig, cyfoethog a thlawd ynghyd.
3. Fy ngenau a draetha ddoethineb; a myfyrdod fy nghalon fydd am ddeall.
4. Gostyngaf fy nghlust at ddihareb; fy nameg a ddatguddiaf gyda'r delyn.
5. Paham yr ofnaf yn amser adfyd, pan y'm hamgylchyno anwiredd fy sodlau?
6. Rhai a ymddiriedant yn eu golud, ac a ymffrostiant yn lluosowgrwydd eu cyfoeth.
7. Gan waredu ni wared neb ei frawd, ac ni all efe roddi iawn drosto i Dduw:
8. (Canys gwerthfawr yw pryniad eu henaid, a hynny a baid byth:)
9. Fel y byddo efe byw byth, ac na welo lygredigaeth.