12. Er hynny dyn mewn anrhydedd, nid erys: tebyg yw i anifeiliaid a ddifethir.
13. Eu ffordd yma yw eu hynfydrwydd: eto eu hiliogaeth ydynt fodlon i'w hymadrodd. Sela.
14. Fel defaid y gosodir hwynt yn uffern; angau a ymborth arnynt; a'r rhai cyfiawn a lywodraetha arnynt y bore; a'u tegwch a dderfydd yn y bedd, o'u cartref.
15. Eto Duw a wared fy enaid i o feddiant uffern: canys efe a'm derbyn i. Sela.
16. Nac ofna pan gyfoethogo un, pan ychwanego gogoniant ei dŷ ef:
17. Canys wrth farw ni ddwg efe ddim ymaith, ac ni ddisgyn ei ogoniant ar ei ôl ef.
18. Er iddo yn ei fywyd fendithio ei enaid: canmolant dithau, o byddi da wrthyt dy hun.
19. Efe a â at genhedlaeth ei dadau, ac ni welant oleuni byth.
20. Dyn mewn anrhydedd, ac heb ddeall, sydd gyffelyb i anifeiliaid a ddifethir.