Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 49:1-7 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Clywch hyn, yr holl bobloedd; gwrandewch hyn, holl drigolion y byd:

2. Yn gystal gwreng a bonheddig, cyfoethog a thlawd ynghyd.

3. Fy ngenau a draetha ddoethineb; a myfyrdod fy nghalon fydd am ddeall.

4. Gostyngaf fy nghlust at ddihareb; fy nameg a ddatguddiaf gyda'r delyn.

5. Paham yr ofnaf yn amser adfyd, pan y'm hamgylchyno anwiredd fy sodlau?

6. Rhai a ymddiriedant yn eu golud, ac a ymffrostiant yn lluosowgrwydd eu cyfoeth.

7. Gan waredu ni wared neb ei frawd, ac ni all efe roddi iawn drosto i Dduw:

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 49