Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 48:2-12 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

2. Tegwch bro, llawenydd yr holl ddaear, yw mynydd Seion, yn ystlysau y gogledd, dinas y Brenin mawr.

3. Duw yn ei phalasau a adwaenir yn amddiffynfa.

4. Canys, wele, y brenhinoedd a ymgynullasant, aethant heibio ynghyd.

5. Hwy a welsant, felly y rhyfeddasant; brawychasant, ac aethant ymaith ar ffrwst.

6. Dychryn a ddaeth arnynt yno, a dolur, megis gwraig yn esgor.

7. Â gwynt y dwyrain y drylli longau y môr.

8. Megis y clywsom, felly y gwelsom yn ninas Arglwydd y lluoedd, yn ninas ein Duw ni: Duw a'i sicrha hi yn dragywydd. Sela.

9. Meddyliasom, O Dduw, am dy drugaredd yng nghanol dy deml.

10. Megis y mae dy enw, O Dduw, felly y mae dy fawl hyd eithafoedd y tir: cyflawn o gyfiawnder yw dy ddeheulaw.

11. Llawenyched mynydd Seion, ac ymhyfryded merched Jwda, oherwydd dy farnedigaethau.

12. Amgylchwch Seion, ac ewch o'i hamgylch hi; rhifwch ei thyrau hi.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 48