5. Pobl a syrthiant danat; oherwydd dy saethau llymion yn glynu yng nghalon gelynion y Brenin.
6. Dy orsedd di, O Dduw, sydd byth ac yn dragywydd: teyrnwialen uniondeb yw teyrnwialen dy frenhiniaeth di.
7. Ceraist gyfiawnder, a chaseaist ddrygioni: am hynny y'th eneiniodd Duw, sef dy Dduw di, ag olew llawenydd yn fwy na'th gyfeillion.
8. Arogl myrr, aloes, a chasia, sydd ar dy holl wisgoedd: allan o'r palasau ifori, â'r rhai y'th lawenhasant.
9. Merched brenhinoedd oedd ymhlith dy bendefigesau: safai y frenhines ar dy ddeheulaw mewn aur coeth o Offir.
10. Gwrando, ferch, a gwêl, a gostwng dy glust; ac anghofia dy bobl dy hun, a thÅ· dy dad.
11. A'r Brenin a chwennych dy degwch: canys efe yw dy Iôr di; ymostwng dithau iddo ef.
12. Merch Tyrus hefyd fydd yno ag anrheg; a chyfoethogion y bobl a ymbiliant â'th wyneb.
13. Merch y Brenin sydd oll yn ogoneddus o fewn: gemwaith aur yw ei gwisg hi.
14. Mewn gwaith edau a nodwydd y dygir hi at y Brenin: y morynion y rhai a ddeuant ar ei hôl, yn gyfeillesau iddi, a ddygir atat ti.
15. Mewn llawenydd a gorfoledd y dygir hwynt: deuant i lys y Brenin.
16. Dy feibion fydd yn lle dy dadau, y rhai a wnei yn dywysogion yn yr holl dir.
17. Paraf gofio dy enw ym mhob cenhedlaeth ac oes: am hynny y bobl a'th foliannant byth ac yn dragywydd.