Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 45:3-11 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

3. Gwregysa dy gleddyf ar dy glun, O Gadarn, â'th ogoniant a'th harddwch.

4. Ac yn dy harddwch marchoga yn llwyddiannus, oherwydd gwirionedd, a lledneisrwydd, a chyfiawnder; a'th ddeheulaw a ddysg i ti bethau ofnadwy.

5. Pobl a syrthiant danat; oherwydd dy saethau llymion yn glynu yng nghalon gelynion y Brenin.

6. Dy orsedd di, O Dduw, sydd byth ac yn dragywydd: teyrnwialen uniondeb yw teyrnwialen dy frenhiniaeth di.

7. Ceraist gyfiawnder, a chaseaist ddrygioni: am hynny y'th eneiniodd Duw, sef dy Dduw di, ag olew llawenydd yn fwy na'th gyfeillion.

8. Arogl myrr, aloes, a chasia, sydd ar dy holl wisgoedd: allan o'r palasau ifori, â'r rhai y'th lawenhasant.

9. Merched brenhinoedd oedd ymhlith dy bendefigesau: safai y frenhines ar dy ddeheulaw mewn aur coeth o Offir.

10. Gwrando, ferch, a gwêl, a gostwng dy glust; ac anghofia dy bobl dy hun, a thÅ· dy dad.

11. A'r Brenin a chwennych dy degwch: canys efe yw dy Iôr di; ymostwng dithau iddo ef.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 45