Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 45:1-16 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Traetha fy nghalon beth da: dywedyd yr ydwyf y pethau a wneuthum i'r brenin: fy nhafod sydd bin ysgrifennydd buan.

2. Tecach ydwyt na meibion dynion: tywalltwyd gras ar dy wefusau: oherwydd hynny y'th fendithiodd Duw yn dragywydd.

3. Gwregysa dy gleddyf ar dy glun, O Gadarn, â'th ogoniant a'th harddwch.

4. Ac yn dy harddwch marchoga yn llwyddiannus, oherwydd gwirionedd, a lledneisrwydd, a chyfiawnder; a'th ddeheulaw a ddysg i ti bethau ofnadwy.

5. Pobl a syrthiant danat; oherwydd dy saethau llymion yn glynu yng nghalon gelynion y Brenin.

6. Dy orsedd di, O Dduw, sydd byth ac yn dragywydd: teyrnwialen uniondeb yw teyrnwialen dy frenhiniaeth di.

7. Ceraist gyfiawnder, a chaseaist ddrygioni: am hynny y'th eneiniodd Duw, sef dy Dduw di, ag olew llawenydd yn fwy na'th gyfeillion.

8. Arogl myrr, aloes, a chasia, sydd ar dy holl wisgoedd: allan o'r palasau ifori, â'r rhai y'th lawenhasant.

9. Merched brenhinoedd oedd ymhlith dy bendefigesau: safai y frenhines ar dy ddeheulaw mewn aur coeth o Offir.

10. Gwrando, ferch, a gwêl, a gostwng dy glust; ac anghofia dy bobl dy hun, a thÅ· dy dad.

11. A'r Brenin a chwennych dy degwch: canys efe yw dy Iôr di; ymostwng dithau iddo ef.

12. Merch Tyrus hefyd fydd yno ag anrheg; a chyfoethogion y bobl a ymbiliant â'th wyneb.

13. Merch y Brenin sydd oll yn ogoneddus o fewn: gemwaith aur yw ei gwisg hi.

14. Mewn gwaith edau a nodwydd y dygir hi at y Brenin: y morynion y rhai a ddeuant ar ei hôl, yn gyfeillesau iddi, a ddygir atat ti.

15. Mewn llawenydd a gorfoledd y dygir hwynt: deuant i lys y Brenin.

16. Dy feibion fydd yn lle dy dadau, y rhai a wnei yn dywysogion yn yr holl dir.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 45