1. Duw, clywsom â'n clustiau, ein tadau a fynegasant i ni, y weithred a wnaethost yn eu hamser hwynt, yn y dyddiau gynt.
2. Ti â'th law a yrraist allan y cenhedloedd, ac a'u plennaist hwythau; ti a ddrygaist y bobloedd, ac a'u cynyddaist hwythau.
3. Canys nid â'u cleddyf eu hun y goresgynasant y tir, nid eu braich a barodd iachawdwriaeth iddynt; eithr dy ddeheulaw di, a'th fraich, a llewyrch dy wyneb, oherwydd i ti eu hoffi hwynt.
4. Ti, Dduw, yw fy Mrenin: gorchymyn iachawdwriaeth i Jacob.
5. Ynot ti y cilgwthiwn ni ein gelynion: yn dy enw di y sathrwn y rhai a gyfodant i'n herbyn.
6. Oherwydd nid yn fy mwa yr ymddiriedaf; nid fy nghleddyf chwaith a'm hachub.
7. Eithr ti a'n hachubaist ni oddi wrth ein gwrthwynebwyr, ac a waradwyddaist ein caseion.
8. Yn Nuw yr ymffrostiwn trwy y dydd; a ni a glodforwn dy enw yn dragywydd. Sela.
9. Ond ti a'n bwriaist ni ymaith, ac a'n gwaradwyddaist; ac nid wyt yn myned allan gyda'n lluoedd.
10. Gwnaethost i ni droi yn ôl oddi wrth y gelyn: a'n caseion a anrheithiasant iddynt eu hun.