3. Anfon dy oleuni a'th wirionedd: tywysant hwy fi; ac arweiniant fi i fynydd dy sancteiddrwydd, ac i'th bebyll.
4. Yna yr af at allor Duw, at Dduw hyfrydwch fy ngorfoledd; a mi a'th foliannaf ar y delyn, O Dduw, fy Nuw.
5. Paham y'th ddarostyngir, fy enaid? a phaham y terfysgi ynof? gobeithia yn Nuw; canys eto y moliannaf ef, sef iachawdwriaeth fy wyneb, a'm Duw.