Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 41:1-8 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Gwyn ei fyd a ystyria wrth y tlawd: yr Arglwydd a'i gwared ef yn amser adfyd.

2. Yr Arglwydd a'i ceidw, ac a'i bywha; gwynfydedig fydd ar y ddaear: na ddod dithau ef wrth ewyllys ei elynion.

3. Yr Arglwydd a'i nertha ef ar ei glaf wely: cyweiri ei holl wely ef yn ei glefyd.

4. Mi a ddywedais, Arglwydd, trugarha wrthyf: iachâ fy enaid; canys pechais i'th erbyn.

5. Fy ngelynion a lefarant ddrwg amdanaf, gan ddywedyd, Pa bryd y bydd efe farw, ac y derfydd am ei enw ef?

6. Ac os daw i'm hedrych, efe a ddywed gelwydd; ei galon a gasgl ati anwiredd: pan êl allan, efe a'i traetha.

7. Fy holl gaseion a gydhustyngant i'm herbyn: yn fy erbyn y dychmygant ddrwg i mi.

8. Aflwydd, meddant, a lŷn wrtho: a chan ei fod yn gorwedd, ni chyfyd mwy.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 41