Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 40:8-17 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

8. Da gennyf wneuthur dy ewyllys, O fy Nuw: a'th gyfraith sydd o fewn fy nghalon.

9. Pregethais gyfiawnder yn y gynulleidfa fawr: wele, nid ateliais fy ngwefusau; ti, Arglwydd, a'i gwyddost.

10. Ni chuddiais dy gyfiawnder o fewn fy nghalon; traethais dy ffyddlondeb, a'th iachawdwriaeth: ni chelais dy drugaredd na'th wirionedd yn y gynulleidfa luosog.

11. Tithau, Arglwydd, nac atal dy drugareddau oddi wrthyf: cadwed dy drugaredd a'th wirionedd fi byth.

12. Canys drygau annifeiriol a'm cylchynasant o amgylch: fy mhechodau a'm daliasant, fel na allwn edrych i fyny: amlach ydynt na gwallt fy mhen; am hynny y pallodd fy nghalon gennyf.

13. Rhynged bodd i ti, Arglwydd, fy ngwaredu: brysia, Arglwydd, i'm cymorth.

14. Cydgywilyddier a gwaradwydder y rhai a geisiant fy einioes i'w difetha; gyrrer yn eu hôl a chywilyddier y rhai a ewyllysiant i mi ddrwg.

15. Anrheithier hwynt yn wobr am eu gwaradwydd, y rhai a ddywedant wrthyf, Ha, ha.

16. Llawenyched ac ymhyfryded ynot ti y rhai oll a'th geisiant: dyweded y rhai a garant dy iachawdwriaeth bob amser, Mawryger yr Arglwydd.

17. Ond yr wyf fi yn dlawd ac yn anghenus; eto yr Arglwydd a feddwl amdanaf: fy nghymorth a'm gwaredydd ydwyt ti; fy Nuw, na hir drig.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 40