Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 37:29-32 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

29. Y rhai cyfiawn a etifeddant y ddaear, ac a breswyliant ynddi yn dragywydd.

30. Genau y cyfiawn a fynega ddoethineb, a'i dafod a draetha farn.

31. Deddf ei Dduw sydd yn ei galon ef; a'i gamre ni lithrant.

32. Yr annuwiol a wylia ar y cyfiawn, ac a gais ei ladd ef.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 37