Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 34:7-10 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

7. Angel yr Arglwydd a gastella o amgylch y rhai a'i hofnant ef, ac a'u gwared hwynt.

8. Profwch, a gwelwch mor dda yw yr Arglwydd: gwyn ei fyd y gŵr a ymddiriedo ynddo.

9. Ofnwch yr Arglwydd, ei saint ef: canys nid oes eisiau ar y rhai a'i hofnant ef.

10. Y mae eisiau a newyn ar y llewod ieuainc: ond y sawl a geisiant yr Arglwydd, ni bydd arnynt eisiau dim daioni.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 34