8. Ofned yr holl ddaear yr Arglwydd: holl drigolion y byd arswydant ef.
9. Canys efe a ddywedodd, ac felly y bu: efe a orchmynnodd, a hynny a safodd.
10. Yr Arglwydd sydd yn diddymu cyngor y cenhedloedd: y mae efe yn diddymu amcanion pobloedd.
11. Cyngor yr Arglwydd a saif yn dragywydd; meddyliau ei galon o genhedlaeth i genhedlaeth.
12. Gwyn ei byd y genedl y mae yr Arglwydd yn Dduw iddi; a'r bobl a ddetholodd efe yn etifeddiaeth iddo ei hun.
13. Yr Arglwydd sydd yn edrych i lawr o'r nefoedd: y mae yn gweled holl feibion dynion.
14. O breswyl ei drigfa yr edrych efe ar holl drigolion y ddaear.
15. Efe a gydluniodd eu calon hwynt: efe a ddeall eu holl weithredoedd.
16. Ni waredir brenin gan liaws llu: ni ddianc cadarn trwy ei fawr gryfder.
17. Peth ofer yw march i ymwared: ac nid achub efe neb trwy ei fawr gryfder.