14. O breswyl ei drigfa yr edrych efe ar holl drigolion y ddaear.
15. Efe a gydluniodd eu calon hwynt: efe a ddeall eu holl weithredoedd.
16. Ni waredir brenin gan liaws llu: ni ddianc cadarn trwy ei fawr gryfder.
17. Peth ofer yw march i ymwared: ac nid achub efe neb trwy ei fawr gryfder.
18. Wele, y mae llygad yr Arglwydd ar y rhai a'i hofnant ef, sef ar y rhai a obeithiant yn ei drugaredd ef;
19. I waredu eu henaid rhag angau, ac i'w cadw yn fyw yn amser newyn.
20. Ein henaid sydd yn disgwyl am yr Arglwydd: efe yw ein porth a'n tarian.
21. Canys ynddo ef y llawenycha ein calon, oherwydd i ni obeithio yn ei enw sanctaidd ef.
22. Bydded dy drugaredd, Arglwydd, arnom ni, megis yr ydym yn ymddiried ynot.