1. Ymlawenhewch, y rhai cyfiawn, yn yr Arglwydd: i'r rhai uniawn gweddus yw mawl.
2. Molwch yr Arglwydd â'r delyn: cenwch iddo â'r nabl, ac â'r dectant.
3. Cenwch iddo ganiad newydd: cenwch yn gerddgar, yn soniarus.
4. Canys uniawn yw gair yr Arglwydd; a'i holl weithredoedd a wnaed mewn ffyddlondeb.
5. Efe a gâr gyfiawnder a barn: o drugaredd yr Arglwydd y mae y ddaear yn gyflawn.
6. Trwy air yr Arglwydd y gwnaethpwyd y nefoedd; a'u holl luoedd hwy trwy ysbryd ei enau ef.