Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 32:1-11 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Gwyn ei fyd y neb y maddeuwyd ei drosedd, ac y cuddiwyd ei bechod.

2. Gwyn ei fyd y dyn ni chyfrif yr Arglwydd iddo anwiredd, ac ni byddo dichell yn ei ysbryd.

3. Tra y tewais, heneiddiodd fy esgyrn, gan fy rhuad ar hyd y dydd.

4. Canys trymhaodd dy law arnaf ddydd a nos: fy irder a drowyd yn sychder haf. Sela.

5. Addefais fy mhechod wrthyt, a'm hanwiredd ni chuddiais: dywedais, Cyffesaf yn fy erbyn fy hun fy anwireddau i'r Arglwydd; a thi a faddeuaist anwiredd fy mhechod. Sela.

6. Am hyn y gweddïa pob duwiol arnat ti yn yr amser y'th geffir: yn ddiau yn llifeiriant dyfroedd mawrion, ni chânt nesáu ato ef.

7. Ti ydwyt loches i mi; cedwi fi rhag ing: amgylchyni fi â chaniadau ymwared. Sela.

8. Cyfarwyddaf di, a dysgaf di yn y ffordd yr elych: â'm llygad arnat y'th gynghoraf.

9. Na fyddwch fel march, neu ful, heb ddeall: yr hwn y mae rhaid atal ei ên â genfa, ac â ffrwyn, rhag ei ddynesáu atat.

10. Gofidiau lawer fydd i'r annuwiol: ond y neb a ymddiriedo yn yr Arglwydd, trugaredd a'i cylchyna ef.

11. Y rhai cyfiawn, byddwch lawen a hyfryd yn yr Arglwydd: a'r rhai uniawn o galon oll, cenwch yn llafar.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 32