1. Ynot ti, Arglwydd, yr ymddiriedais: na'm gwaradwydder yn dragywydd: gwared fi yn dy gyfiawnder.
2. Gogwydda dy glust ataf; gwared fi ar frys: bydd i mi yn graig gadarn, yn dŷ amddiffyn i'm cadw.
3. Canys fy nghraig a'm castell ydwyt: gan hynny er mwyn dy enw tywys fi, ac arwain fi.
4. Tyn fi allan o'r rhwyd a guddiasant i mi: canys ti yw fy nerth.
5. I'th law y gorchmynnaf fy ysbryd: gwaredaist fi, O Arglwydd Dduw y gwirionedd.
6. Caseais y rhai sydd yn dal ar ofer wagedd: minnau a obeithiaf yn yr Arglwydd.
7. Ymlawenhaf ac ymhyfrydaf yn dy drugaredd: canys gwelaist fy adfyd; adnabuost fy enaid mewn cyfyngderau;
8. Ac ni warchaeaist fi yn llaw y gelyn; ond gosodaist fy nhraed mewn ehangder.
9. Trugarha wrthyf, Arglwydd; canys cyfyng yw arnaf: dadwinodd fy llygad gan ofid, ie, fy enaid a'm bol.
10. Canys fy mywyd a ballodd gan ofid, a'm blynyddoedd gan ochain: fy nerth a ballodd oherwydd fy anwiredd, a'm hesgyrn a bydrasant.
11. Yn warthrudd yr ydwyf ymysg fy holl elynion, a hynny yn ddirfawr ymysg fy nghymdogion; ac yn ddychryn i'r rhai a'm hadwaenant: y rhai a'm gwelent allan, a gilient oddi wrthyf.