Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 3:4-8 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

4. A'm llef y gelwais ar yr Arglwydd, ac efe a'm clybu o'i fynydd sanctaidd. Sela.

5. Mi a orweddais, ac a gysgais, ac a ddeffroais: canys yr Arglwydd a'm cynhaliodd.

6. Nid ofnaf fyrddiwn o bobl, y rhai o amgylch a ymosodasant i'm herbyn.

7. Cyfod, Arglwydd; achub fi, fy Nuw: canys trewaist fy holl elynion ar gar yr ên; torraist ddannedd yr annuwiolion.

8. Iachawdwriaeth sydd eiddo yr Arglwydd: dy fendith sydd ar dy bobl. Sela.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 3