Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 28:4-7 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

4. Dyro iddynt yn ôl eu gweithred, ac yn ôl drygioni eu dychmygion: dyro iddynt yn ôl gweithredoedd eu dwylo; tâl iddynt eu haeddedigaethau.

5. Am nad ystyriant weithredoedd yr Arglwydd, na gwaith ei ddwylo ef, y dinistria efe hwynt, ac nis adeilada hwynt.

6. Bendigedig fyddo yr Arglwydd: canys clybu lef fy ngweddïau.

7. Yr Arglwydd yw fy nerth, a'm tarian; ynddo ef yr ymddiriedodd fy nghalon, a myfi a gynorthwywyd: oherwydd hyn y llawenychodd fy nghalon, ac ar fy nghân y clodforaf ef.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 28