3. Na thyn fi gyda'r annuwiolion, a chyda gweithredwyr anwiredd; y rhai a lefarant heddwch wrth eu cymdogion, a drwg yn eu calon.
4. Dyro iddynt yn ôl eu gweithred, ac yn ôl drygioni eu dychmygion: dyro iddynt yn ôl gweithredoedd eu dwylo; tâl iddynt eu haeddedigaethau.
5. Am nad ystyriant weithredoedd yr Arglwydd, na gwaith ei ddwylo ef, y dinistria efe hwynt, ac nis adeilada hwynt.
6. Bendigedig fyddo yr Arglwydd: canys clybu lef fy ngweddïau.
7. Yr Arglwydd yw fy nerth, a'm tarian; ynddo ef yr ymddiriedodd fy nghalon, a myfi a gynorthwywyd: oherwydd hyn y llawenychodd fy nghalon, ac ar fy nghân y clodforaf ef.
8. Yr Arglwydd sydd nerth i'r cyfryw rai, a chadernid iachawdwriaeth ei Eneiniog yw efe.
9. Cadw dy bobl, a bendithia dy etifeddiaeth: portha hwynt hefyd, a dyrcha hwynt yn dragywydd.