Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 25:13-19 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

13. Ei enaid ef a erys mewn daioni: a'i had a etifedda y ddaear.

14. Dirgelwch yr Arglwydd sydd gyda'r rhai a'i hofnant ef: a'i gyfamod hefyd, i'w cyfarwyddo hwynt.

15. Fy llygaid sydd yn wastad ar yr Arglwydd: canys efe a ddwg fy nhraed allan o'r rhwyd.

16. Tro ataf, a thrugarha wrthyf: canys unig a thlawd ydwyf.

17. Gofidiau fy nghalon a helaethwyd: dwg fi allan o'm cyfyngderau.

18. Gwêl fy nghystudd a'm helbul, a maddau fy holl bechodau.

19. Edrych ar fy ngelynion; canys amlhasant; â chasineb traws hefyd y'm casasant.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 25