Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 25:1-18 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Atat ti, O Arglwydd, y dyrchafaf fy enaid.

2. O fy Nuw, ynot ti yr ymddiriedais; na'm gwaradwydder; na orfoledded fy ngelynion arnaf.

3. Ie, na waradwydder neb sydd yn disgwyl wrthyt ti: gwaradwydder y rhai a droseddant heb achos.

4. Pâr i mi wybod dy ffyrdd, O Arglwydd: dysg i mi dy lwybrau.

5. Tywys fi yn dy wirionedd, a dysg fi: canys ti yw Duw fy iachawdwriaeth; wrthyt ti y disgwyliaf ar hyd y dydd.

6. Cofia, Arglwydd, dy dosturiaethau, a'th drugareddau: canys erioed y maent hwy.

7. Na chofia bechodau fy ieuenctid, na'm camweddau: yn ôl dy drugaredd meddwl di amdanaf, er mwyn dy ddaioni, Arglwydd.

8. Da ac uniawn yw yr Arglwydd: oherwydd hynny y dysg efe bechaduriaid yn y ffordd.

9. Y rhai llariaidd a hyffordda efe mewn barn: a'i ffordd a ddysg efe i'r rhai gostyngedig.

10. Holl lwybrau yr Arglwydd ydynt drugaredd a gwirionedd, i'r rhai a gadwant ei gyfamod a'i dystiolaethau ef.

11. Er mwyn dy enw, Arglwydd, maddau fy anwiredd: canys mawr yw.

12. Pa ŵr yw efe sydd yn ofni'r Arglwydd? efe a'i dysg ef yn y ffordd a ddewiso.

13. Ei enaid ef a erys mewn daioni: a'i had a etifedda y ddaear.

14. Dirgelwch yr Arglwydd sydd gyda'r rhai a'i hofnant ef: a'i gyfamod hefyd, i'w cyfarwyddo hwynt.

15. Fy llygaid sydd yn wastad ar yr Arglwydd: canys efe a ddwg fy nhraed allan o'r rhwyd.

16. Tro ataf, a thrugarha wrthyf: canys unig a thlawd ydwyf.

17. Gofidiau fy nghalon a helaethwyd: dwg fi allan o'm cyfyngderau.

18. Gwêl fy nghystudd a'm helbul, a maddau fy holl bechodau.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 25