Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 23:3-6 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

3. Efe a ddychwel fy enaid: efe a'm harwain ar hyd llwybrau cyfiawnder er mwyn ei enw.

4. Ie, pe rhodiwn ar hyd glyn cysgod angau, nid ofnaf niwed: canys yr wyt ti gyda mi; dy wialen a'th ffon a'm cysurant.

5. Ti a arlwyi ford ger fy mron yng ngŵydd fy ngwrthwynebwyr: iraist fy mhen ag olew; fy ffiol sydd lawn.

6. Daioni a thrugaredd yn ddiau a'm canlynant holl ddyddiau fy mywyd: a phreswyliaf yn nhŷ yr Arglwydd yn dragywydd.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 23