2. Efe a wna i mi orwedd mewn porfeydd gwelltog: efe a'm tywys gerllaw y dyfroedd tawel.
3. Efe a ddychwel fy enaid: efe a'm harwain ar hyd llwybrau cyfiawnder er mwyn ei enw.
4. Ie, pe rhodiwn ar hyd glyn cysgod angau, nid ofnaf niwed: canys yr wyt ti gyda mi; dy wialen a'th ffon a'm cysurant.
5. Ti a arlwyi ford ger fy mron yng ngŵydd fy ngwrthwynebwyr: iraist fy mhen ag olew; fy ffiol sydd lawn.