Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 22:7-17 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

7. Pawb a'r a'm gwelant, a'm gwatwarant: llaesant wefl, ysgydwant ben, gan ddywedyd,

8. Ymddiriedodd yn yr Arglwydd; gwareded ef: achubed ef, gan ei fod yn dda ganddo.

9. Canys ti a'm tynnaist o'r groth: gwnaethost i mi obeithio pan oeddwn ar fronnau fy mam.

10. Arnat ti y'm bwriwyd o'r bru: o groth fy mam fy Nuw ydwyt.

11. Nac ymbellha oddi wrthyf; oherwydd cyfyngder sydd agos: canys nid oes cynorthwywr.

12. Teirw lawer a'm cylchynasant: gwrdd deirw Basan a'm hamgylchasant.

13. Agorasant arnaf eu genau, fel llew rheibus a rhuadwy.

14. Fel dwfr y'm tywalltwyd, a'm hesgyrn oll a ymwahanasant: fy nghalon sydd fel cwyr; hi a doddodd yng nghanol fy mherfedd.

15. Fy nerth a wywodd fel priddlestr; a'm tafod a lynodd wrth daflod fy ngenau: ac i lwch angau y'm dygaist.

16. Canys cŵn a'm cylchynasant: cynulleidfa y drygionus a'm hamgylchasant: trywanasant fy nwylo a'm traed.

17. Gallaf gyfrif fy holl esgyrn: y maent yn tremio ac yn edrych arnaf.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 22