Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 22:23-31 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

23. Y rhai sydd yn ofni yr Arglwydd, molwch ef: holl had Jacob, gogoneddwch ef; a holl had Israel, ofnwch ef.

24. Canys ni ddirmygodd, ac ni ffieiddiodd gystudd y tlawd; ac ni chuddiodd ei wyneb rhagddo: ond pan lefodd efe arno, efe a wrandawodd.

25. Fy mawl sydd ohonot ti yn y gynulleidfa fawr: fy addunedau a dalaf gerbron y rhai a'i hofnant ef.

26. Y tlodion a fwytânt, ac a ddiwellir: y rhai a geisiant yr Arglwydd, a'i moliannant ef: eich calon fydd byw yn dragywydd.

27. Holl derfynau y ddaear a gofiant, ac a droant at yr Arglwydd: a holl dylwythau y cenhedloedd a addolant ger dy fron di.

28. Canys eiddo yr Arglwydd yw y deyrnas: ac efe sydd yn llywodraethu ymhlith y cenhedloedd.

29. Yr holl rai breision ar y ddaear a fwytânt, ac a addolant: y rhai a ddisgynnant i'r llwch, a ymgrymant ger ei fron ef; ac nid oes neb a all gadw yn fyw ei enaid ei hun.

30. Eu had a'i gwasanaetha ef: cyfrifir ef i'r Arglwydd yn genhedlaeth.

31. Deuant, ac adroddant ei gyfiawnder ef i'r bobl a enir, mai efe a wnaeth hyn.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 22