1. Fy Nuw, fy Nuw, paham y'm gwrthodaist? paham yr ydwyt mor bell oddi wrth fy iachawdwriaeth, a geiriau fy llefain?
2. Fy Nuw, llefain yr ydwyf y dydd, ac ni wrandewi; y nos hefyd, ac nid oes osteg i mi.
3. Ond tydi wyt sanctaidd, O dydi yr hwn wyt yn cyfanheddu ym moliant Israel.
4. Ein tadau a obeithiasant ynot: gobeithiasant, a gwaredaist hwynt.
5. Arnat ti y llefasant, ac achubwyd hwynt: ynot yr ymddiriedasant, ac nis gwaradwyddwyd hwynt.
6. A minnau, pryf ydwyf, ac nid gŵr; gwarthrudd dynion, a dirmyg y bobl.
7. Pawb a'r a'm gwelant, a'm gwatwarant: llaesant wefl, ysgydwant ben, gan ddywedyd,
8. Ymddiriedodd yn yr Arglwydd; gwareded ef: achubed ef, gan ei fod yn dda ganddo.
9. Canys ti a'm tynnaist o'r groth: gwnaethost i mi obeithio pan oeddwn ar fronnau fy mam.
10. Arnat ti y'm bwriwyd o'r bru: o groth fy mam fy Nuw ydwyt.
11. Nac ymbellha oddi wrthyf; oherwydd cyfyngder sydd agos: canys nid oes cynorthwywr.
12. Teirw lawer a'm cylchynasant: gwrdd deirw Basan a'm hamgylchasant.
13. Agorasant arnaf eu genau, fel llew rheibus a rhuadwy.
14. Fel dwfr y'm tywalltwyd, a'm hesgyrn oll a ymwahanasant: fy nghalon sydd fel cwyr; hi a doddodd yng nghanol fy mherfedd.