6. Minnau a osodais fy Mrenin ar Seion fy mynydd sanctaidd.
7. Mynegaf y ddeddf: dywedodd yr Arglwydd wrthyf, Fy Mab ydwyt ti; myfi heddiw a'th genhedlais.
8. Gofyn i mi, a rhoddaf y cenhedloedd yn etifeddiaeth i ti, a therfynau y ddaear i'th feddiant.
9. Drylli hwynt â gwialen haearn; maluri hwynt fel llestr pridd.
10. Gan hynny yr awr hon, frenhinoedd, byddwch synhwyrol: barnwyr y ddaear, cymerwch ddysg.
11. Gwasanaethwch yr Arglwydd mewn ofn, ac ymlawenhewch mewn dychryn.
12. Cusenwch y Mab, rhag iddo ddigio, a'ch difetha chwi o'r ffordd, pan gyneuo ei lid ef ond ychydig. Gwyn eu byd pawb a ymddiriedant ynddo ef.