Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 19:1-11 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Y Nefoedd sydd yn datgan gogoniant Duw; a'r ffurfafen sydd yn mynegi gwaith ei ddwylo ef.

2. Dydd i ddydd a draetha ymadrodd, a nos i nos a ddengys wybodaeth.

3. Nid oes iaith nac ymadrodd, lle ni chlybuwyd eu lleferydd hwynt.

4. Eu llinyn a aeth trwy yr holl ddaear, a'u geiriau hyd eithafoedd byd: i'r haul y gosododd efe babell ynddynt;

5. Yr hwn sydd fel gŵr priod yn dyfod allan o'i ystafell: ac a ymlawenha fel cawr i redeg gyrfa.

6. O eithaf y nefoedd y mae ei fynediad ef allan, a'i amgylchiad hyd eu heithafoedd hwynt: ac nid ymgudd dim oddi wrth ei wres ef.

7. Cyfraith yr Arglwydd sydd berffaith, yn troi yr enaid: tystiolaeth yr Arglwydd sydd sicr, ac yn gwneuthur y gwirion yn ddoeth.

8. Deddfau yr Arglwydd sydd uniawn, yn llawenhau y galon: gorchymyn yr Arglwydd sydd bur, yn goleuo y llygaid.

9. Ofn yr Arglwydd sydd lân, yn parhau yn dragywydd; barnau yr Arglwydd ydynt wirionedd, cyfiawn ydynt i gyd.

10. Mwy dymunol ŷnt nag aur, ie, nag aur coeth lawer: melysach hefyd na'r mêl, ac na diferiad diliau mêl.

11. Ynddynt hwy hefyd y rhybuddir dy was: o'u cadw y mae gwobr lawer.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 19