5. Gofidiau uffern a'm cylchynasant: maglau angau a achubasant fy mlaen.
6. Yn fy nghyfyngder y gelwais ar yr Arglwydd, ac y gwaeddais ar fy Nuw: efe a glybu fy llef o'i deml, a'm gwaedd ger ei fron a ddaeth i'w glustiau ef.
7. Yna y siglodd ac y crynodd y ddaear; a seiliau y mynyddoedd a gynhyrfodd ac a ymsiglodd, am iddo ef ddigio.
8. Dyrchafodd mwg o'i ffroenau, a thân a ysodd o'i enau: glo a enynasant ganddo.
9. Efe hefyd a ostyngodd y nefoedd, ac a ddisgynnodd: a thywyllwch oedd dan ei draed ef.
10. Marchogodd hefyd ar y ceriwb, ac a ehedodd: ie, efe a ehedodd ar adenydd y gwynt.
11. Efe a wnaeth dywyllwch yn ddirgelfa iddo; a'i babell o'i amgylch oedd dywyllwch dyfroedd, a thew gymylau yr awyr.
12. Gan y disgleirdeb oedd ger ei fron, ei gymylau a aethant heibio; cenllysg a marwor tanllyd.
13. Yr Arglwydd hefyd a daranodd yn y nefoedd, a'r Goruchaf a roddes ei lef; cenllysg a marwor tanllyd.
14. Ie, efe a anfonodd ei saethau, ac a'u gwasgarodd hwynt; ac a saethodd ei fellt, ac a'u gorchfygodd hwynt.
15. Gwaelodion y dyfroedd a welwyd, a seiliau y byd a ddinoethwyd gan dy gerydd di, O Arglwydd, a chan chwythad anadl dy ffroenau.
16. Anfonodd oddi uchod, cymerodd fi, tynnodd fi allan o ddyfroedd lawer.
17. Efe a'm gwaredodd oddi wrth fy ngelyn cadarn, a rhag fy nghaseion: canys yr oeddynt yn drech na mi.
18. Achubasant fy mlaen yn nydd fy ngofid: ond yr Arglwydd oedd gynhaliad i mi.
19. Dug fi hefyd i ehangder: gwaredodd fi; canys ymhoffodd ynof.
20. Yr Arglwydd a'm gobrwyodd yn ôl fy nghyfiawnder; yn ôl glendid fy nwylo y talodd efe i mi.