Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 17:5-12 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

5. Cynnal fy ngherddediad yn dy lwybrau, fel na lithro fy nhraed.

6. Mi a elwais arnat; canys gwrandewi arnaf fi, O Dduw: gostwng dy glust ataf, ac erglyw fy ymadrodd.

7. Dangos dy ryfedd drugareddau,O Achubydd y rhai a ymddiriedant ynot, rhag y sawl a ymgyfodant yn erbyn dy ddeheulaw.

8. Cadw fi fel cannwyll llygad: cudd fi dan gysgod dy adenydd,

9. Rhag yr annuwiolion, y rhai a'm gorthrymant, rhag fy ngelynion marwol, y rhai a'm hamgylchant.

10. Caesant gan eu braster: â'u genau y llefarant mewn balchder.

11. Ein cyniweirfa ni a glychynasant hwy yr awron: gosodasant eu llygaid i dynnu i lawr i'r ddaear.

12. Eu dull sydd fel llew a chwenychai ysglyfaethu, ac megis llew ieuanc yn aros mewn leoedd dirgel.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 17