5. Yr Arglwydd yw rhan fy etifeddiaeth i a'm ffiol: ti a gynheli fy nghoelbren.
6. Y llinynnau a syrthiodd i mi mewn lleoedd hyfryd: ie, y mae i mi etifeddiaeth deg.
7. Bendithiaf yr Arglwydd, yr hwn a'm cynghorodd: fy arennau hefyd a'm dysgant y nos.
8. Gosodais yr Arglwydd bob amser ger fy mron: am ei fod ar fy neheulaw, ni'm hysgogir.
9. Oherwydd hynny llawenychodd fy nghalon, ac ymhyfrydodd fy ngogoniant: fy nghnawd hefyd a orffwys mewn gobaith.
10. Canys ni adewi fy enaid yn uffern; ac ni oddefi i'th Sanct weled llygredigaeth.