Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 16:2-11 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

2. Fy enaid, dywedaist wrth yr Arglwydd, Fy Arglwydd ydwyt ti: fy na nid yw ddim i ti:

3. Ond i'r saint sydd ar y ddaear, a'r rhai rhagorol, yn y rhai y mae fy holl hyfrydwch.

4. Gofidiau a amlhânt i'r rhai a frysiant ar ôl duw dieithr: eu diod‐offrwm o waed nid offrymaf fi, ac ni chymeraf eu henwau yn fy ngwefusau.

5. Yr Arglwydd yw rhan fy etifeddiaeth i a'm ffiol: ti a gynheli fy nghoelbren.

6. Y llinynnau a syrthiodd i mi mewn lleoedd hyfryd: ie, y mae i mi etifeddiaeth deg.

7. Bendithiaf yr Arglwydd, yr hwn a'm cynghorodd: fy arennau hefyd a'm dysgant y nos.

8. Gosodais yr Arglwydd bob amser ger fy mron: am ei fod ar fy neheulaw, ni'm hysgogir.

9. Oherwydd hynny llawenychodd fy nghalon, ac ymhyfrydodd fy ngogoniant: fy nghnawd hefyd a orffwys mewn gobaith.

10. Canys ni adewi fy enaid yn uffern; ac ni oddefi i'th Sanct weled llygredigaeth.

11. Dangosi i mi lwybr bywyd: digonolrwydd llawenydd sydd ger dy fron, ar dy ddeheulaw y mae digrifwch yn dragywydd.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 16