1. Cadw fi, O Dduw: canys ynot yr ymddiriedaf.
2. Fy enaid, dywedaist wrth yr Arglwydd, Fy Arglwydd ydwyt ti: fy na nid yw ddim i ti:
3. Ond i'r saint sydd ar y ddaear, a'r rhai rhagorol, yn y rhai y mae fy holl hyfrydwch.
4. Gofidiau a amlhânt i'r rhai a frysiant ar ôl duw dieithr: eu diod‐offrwm o waed nid offrymaf fi, ac ni chymeraf eu henwau yn fy ngwefusau.
5. Yr Arglwydd yw rhan fy etifeddiaeth i a'm ffiol: ti a gynheli fy nghoelbren.