Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 144:1-15 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Bendigedig fyddo yr Arglwydd fy nerth, yr hwn sydd yn dysgu fy nwylo i ymladd, a'm bysedd i ryfela.

2. Fy nhrugaredd, a'm hamddiffynfa; fy nhŵr, a'm gwaredydd: fy nharian yw efe, ac ynddo y gobeithiais; yr hwn sydd yn darostwng fy mhobl danaf.

3. Arglwydd, beth yw dyn, pan gydnabyddit ef? neu fab dyn, pan wneit gyfrif ohono?

4. Dyn sydd debyg i wagedd; ei ddyddiau sydd fel cysgod yn myned heibio.

5. Arglwydd, gostwng dy nefoedd, a disgyn: cyffwrdd â'r mynyddoedd, a mygant.

6. Saetha fellt, a gwasgar hwynt; ergydia dy saethau, a difa hwynt.

7. Anfon dy law oddi uchod; achub a gwared fi o ddyfroedd mawrion, o law plant estron;

8. Y rhai y llefara eu genau wagedd, ac y mae eu deheulaw yn ddeheulaw ffalster.

9. Canaf i ti, O Dduw, ganiad newydd: ar y nabl a'r dectant y canaf i ti.

10. Efe sydd yn rhoddi iachawdwriaeth i frenhinoedd; yr hwn sydd yn gwaredu Dafydd ei was oddi wrth y cleddyf niweidiol.

11. Achub fi, a gwared fi o law meibion estron, y rhai y llefara eu genau wagedd, ac y mae eu deheulaw yn ddeheulaw ffalster:

12. Fel y byddo ein meibion fel planwydd yn tyfu yn eu hieuenctid; a'n merched fel conglfaen nadd, wrth gyffelybrwydd palas:

13. Fel y byddo ein celloedd yn llawn, yn trefnu pob rhyw luniaeth; a'n defaid yn dwyn miloedd a myrddiwn yn ein heolydd:

14. A'n hychen yn gryfion i lafurio; heb na rhuthro i mewn, na myned allan; na gwaedd yn ein heolydd.

15. Gwyn eu byd y bobl y mae felly iddynt: gwyn eu byd y bobl y mae yr Arglwydd yn Dduw iddynt.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 144