Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 143:6-12 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

6. Lledais fy nwylo atat: fy enaid fel tir sychedig sydd yn hiraethu amdanat. Sela.

7. O Arglwydd, gwrando fi yn ebrwydd: pallodd fy ysbryd: na chuddia dy wyneb oddi wrthyf; rhag fy mod yn gyffelyb i'r rhai a ddisgynnant i'r pwll.

8. Pâr i mi glywed dy drugarowgrwydd y bore; oherwydd ynot ti y gobeithiaf: pâr i mi wybod y ffordd y rhodiwyf; oblegid atat ti y dyrchafaf fy enaid.

9. Gwared fi oddi wrth fy ngelynion, O Arglwydd: gyda thi yr ymguddiais.

10. Dysg i mi wneuthur dy ewyllys di; canys ti yw fy Nuw: tywysed dy ysbryd daionus fi i dir uniondeb.

11. Bywha fi, O Arglwydd, er mwyn dy enw: dwg fy enaid allan o ing, er mwyn dy gyfiawnder.

12. Ac er dy drugaredd dinistria fy ngelynion, a difetha holl gystuddwyr fy enaid: oblegid dy was di ydwyf fi.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 143