Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 140:1-9 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Gwared fi, O Arglwydd, oddi wrth y dyn drwg: cadw fi rhag y gŵr traws:

2. Y rhai sydd yn bwriadu drygioni yn eu calon: ymgasglant beunydd i ryfel.

3. Golymasant eu tafodau fel sarff: gwenwyn asb sydd dan eu gwefusau. Sela.

4. Cadw fi, O Arglwydd, rhag dwylo'r annuwiol; cadw fi rhag y gŵr traws: y rhai a fwriadasant fachellu fy nhraed.

5. Y beilchion a guddiasant faglau i mi, ac a estynasant rwyd wrth dannau ar ymyl y llwybrau: gosodasant hoenynnau ar fy medr. Sela.

6. Dywedais wrth yr Arglwydd, Fy Nuw ydwyt ti: clyw, O Arglwydd, lef fy ngweddïau.

7. Arglwydd Dduw, nerth fy iachawdwriaeth, gorchuddiaist fy mhen yn nydd brwydr.

8. Na chaniatâ, Arglwydd, ddymuniad yr annuwiol: na lwydda ei ddrwg feddwl; rhag eu balchïo hwynt. Sela.

9. Y pennaf o'r rhai a'm hamgylchyno, blinder eu gwefusau a'u gorchuddio.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 140