1. Arglwydd, chwiliaist, ac adnabuost fi.
2. Ti a adwaenost fy eisteddiad a'm cyfodiad: deelli fy meddwl o bell.
3. Amgylchyni fy llwybr a'm gorweddfa; a hysbys wyt yn fy holl ffyrdd.
4. Canys nid oes air ar fy nhafod, ond wele, Arglwydd, ti a'i gwyddost oll.
5. Amgylchynaist fi yn ôl ac ymlaen, a gosodaist dy law arnaf.
6. Dyma wybodaeth ry ryfedd i mi: uchel yw, ni fedraf oddi wrthi.
7. I ba le yr af oddi wrth dy ysbryd? ac i ba le y ffoaf o'th ŵydd?
8. Os dringaf i'r nefoedd, yno yr wyt ti: os cyweiriaf fy ngwely yn uffern, wele di yno.
9. Pe cymerwn adenydd y wawr, a phe trigwn yn eithafoedd y môr:
10. Yno hefyd y'm tywysai dy law, ac y'm daliai dy ddeheulaw.
11. Pe dywedwn, Diau y tywyllwch a'm cuddiai; yna y byddai y nos yn oleuni o'm hamgylch.