Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 135:5-19 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

5. Canys mi a wn mai mawr yw yr Arglwydd; a bod ein Harglwydd ni goruwch yr holl dduwiau.

6. Yr Arglwydd a wnaeth yr hyn oll a fynnai yn y nefoedd, ac yn y ddaear, yn y môr, ac yn yr holl ddyfnderau.

7. Y mae yn codi tarth o eithafoedd y ddaear; mellt a wnaeth efe ynghyd â'r glaw; gan ddwyn y gwynt allan o'i drysorau.

8. Yr hwn a drawodd gyntaf‐anedig yr Aifft, yn ddyn ac yn anifail.

9. Danfonodd arwyddion a rhyfeddodau i'th ganol di, yr Aifft; ar Pharo, ac ar ei holl weision.

10. Yr hwn a drawodd genhedloedd lawer, ac a laddodd frenhinoedd cryfion;

11. Sehon brenin yr Amoriaid, ac Og brenin Basan, a holl freniniaethau Canaan:

12. Ac a roddodd eu tir hwynt yn etifeddiaeth, yn etifeddiaeth i Israel ei bobl.

13. Dy enw, O Arglwydd, a bery yn dragywydd; dy goffadwriaeth, O Arglwydd, o genhedlaeth i genhedlaeth.

14. Canys yr Arglwydd a farna ei bobl, a bydd edifar ganddo o ran ei weision.

15. Delwau y cenhedloedd ydynt arian ac aur, gwaith dwylo dyn.

16. Genau sydd iddynt, ond ni lefarant; llygaid sydd ganddynt, ond ni welant.

17. Y mae clustiau iddynt, ond ni chlywant; nid oes chwaith anadl yn eu genau.

18. Fel hwynt y mae y rhai a'u gwnânt, a phob un a ymddiriedo ynddynt.

19. Tŷ Israel, bendithiwch yr Arglwydd: bendithiwch yr Arglwydd, tŷ Aaron.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 135