3. Molwch yr Arglwydd; canys da yw yr Arglwydd: cenwch i'w enw; canys hyfryd yw.
4. Oblegid yr Arglwydd a ddetholodd Jacob iddo ei hun, ac Israel yn briodoriaeth iddo.
5. Canys mi a wn mai mawr yw yr Arglwydd; a bod ein Harglwydd ni goruwch yr holl dduwiau.
6. Yr Arglwydd a wnaeth yr hyn oll a fynnai yn y nefoedd, ac yn y ddaear, yn y môr, ac yn yr holl ddyfnderau.
7. Y mae yn codi tarth o eithafoedd y ddaear; mellt a wnaeth efe ynghyd â'r glaw; gan ddwyn y gwynt allan o'i drysorau.
8. Yr hwn a drawodd gyntafâanedig yr Aifft, yn ddyn ac yn anifail.
9. Danfonodd arwyddion a rhyfeddodau i'th ganol di, yr Aifft; ar Pharo, ac ar ei holl weision.
10. Yr hwn a drawodd genhedloedd lawer, ac a laddodd frenhinoedd cryfion;
11. Sehon brenin yr Amoriaid, ac Og brenin Basan, a holl freniniaethau Canaan:
12. Ac a roddodd eu tir hwynt yn etifeddiaeth, yn etifeddiaeth i Israel ei bobl.
13. Dy enw, O Arglwydd, a bery yn dragywydd; dy goffadwriaeth, O Arglwydd, o genhedlaeth i genhedlaeth.
14. Canys yr Arglwydd a farna ei bobl, a bydd edifar ganddo o ran ei weision.
15. Delwau y cenhedloedd ydynt arian ac aur, gwaith dwylo dyn.
16. Genau sydd iddynt, ond ni lefarant; llygaid sydd ganddynt, ond ni welant.
17. Y mae clustiau iddynt, ond ni chlywant; nid oes chwaith anadl yn eu genau.