15. Delwau y cenhedloedd ydynt arian ac aur, gwaith dwylo dyn.
16. Genau sydd iddynt, ond ni lefarant; llygaid sydd ganddynt, ond ni welant.
17. Y mae clustiau iddynt, ond ni chlywant; nid oes chwaith anadl yn eu genau.
18. Fel hwynt y mae y rhai a'u gwnânt, a phob un a ymddiriedo ynddynt.
19. Tŷ Israel, bendithiwch yr Arglwydd: bendithiwch yr Arglwydd, tŷ Aaron.
20. Tŷ Lefi, bendithiwch yr Arglwydd: y rhai a ofnwch yr Arglwydd, bendithiwch yr Arglwydd.
21. Bendithier yr Arglwydd o Seion, yr hwn sydd yn trigo yn Jerwsalem. Molwch yr Arglwydd.