Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 13:1-5 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Pa hyd, Arglwydd, y'm hanghofi? ai yn dragywydd? pa hyd y cuddi dy wyneb rhagof?

2. Pa hyd y cymeraf gynghorion yn fy enaid, gan fod blinder beunydd yn fy nghalon? pa hyd y dyrchefir fy ngelyn arnaf?

3. Edrych, a chlyw fi, O Arglwydd fy Nuw: goleua fy llygaid, rhag i mi huno yn yr angau:

4. Rhag dywedyd o'm gelyn, Gorchfygais ef; ac i'm gwrthwynebwyr lawenychu, os gogwyddaf.

5. Minnau hefyd a ymddiriedais yn dy drugaredd di; fy nghalon a ymlawenycha yn dy iachawdwriaeth: canaf i'r Arglwydd, am iddo synio arnaf.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 13