Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 129:1-8 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Llawer gwaith y'm cystuddiasant o'm hieuenctid, y dichon Israel ddywedyd yn awr:

2. Llawer gwaith y'm cystuddiasant o'm hieuenctid: eto ni'm gorfuant.

3. Yr arddwyr a arddasant ar fy nghefn: estynasant eu cwysau yn hirion.

4. Yr Arglwydd sydd gyfiawn: efe a dorrodd raffau y rhai annuwiol.

5. Gwaradwydder hwy oll, a gyrrer yn eu hôl, y rhai a gasânt Seion.

6. Byddant fel glaswellt pen tai, yr hwn a wywa cyn y tynner ef ymaith:

7. A'r hwn ni leinw y pladurwr ei law; na'r hwn fyddo yn rhwymo yr ysgubau, ei fynwes.

8. Ac ni ddywed y rhai a ânt heibio, Bendith yr Arglwydd arnoch: bendithiwn chwi yn enw yr Arglwydd.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 129