1. Gwyn ei fyd pob un sydd yn ofni yr Arglwydd; yr hwn sydd yn rhodio yn ei ffyrdd ef.
2. Canys mwynhei lafur dy ddwylo: gwyn dy fyd, a da fydd i ti.
3. Dy wraig fydd fel gwinwydden ffrwythlon ar hyd ystlysau dy dŷ: dy blant fel planhigion olewydd o amgylch dy ford.
4. Wele, fel hyn yn ddiau y bendithir y gŵr a ofno yr Arglwydd.