Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 127:1-4 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Os yr Arglwydd nid adeilada y tŷ, ofer y llafuria ei adeiladwyr wrtho: os yr Arglwydd ni cheidw y ddinas, ofer y gwylia y ceidwad.

2. Ofer i chwi foregodi, myned yn hwyr i gysgu, bwyta bara gofidiau: felly y rhydd efe hun i'w anwylyd.

3. Wele, plant ydynt etifeddiaeth yr Arglwydd: ei wobr ef yw ffrwyth y groth.

4. Fel y mae saethau yn llaw y cadarn; felly y mae plant ieuenctid.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 127